Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Mawrth 2025
Amser:
09.01 -
09.18
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan AS Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Trefn Busnes
Busnes yr Wythnos Hon
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
·
Cwestiynau i’r Cwnsler
Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 30
munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.35pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (45 munud)
Dydd Mawrth 29 Ebrill 2025
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
Gofynnodd Heledd Fychan a yw'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Datganiad Llafar yr wythnos nesaf ar effaith Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar Gymru. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried hyn.
Cytunwyd i drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 7 Mai 2025 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer (30 munud)
Nododd y Llywydd y ddadl sydd ar ddod ar adroddiad cyntaf Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, sydd wedi'i threfnu ar gyfer 2 Ebrill. Dywedodd y bydd, pe bai unrhyw welliannau yn cael eu cyflwyno i'r cynnig, yn penderfynu a ddylid eu dethol i'w trafod o dan Reol Sefydlog 12.23(iii) yn seiliedig ar eu cynnwys a'r cylch gwaith y cytunwyd arno i’r Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor Busnes ymateb interim y Pwyllgor a chytunodd i ddychwelyd i ystyried yr amserlen ymhellach yn y cyfarfod dilynol.
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb P-06-1365. Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru, a nododd ddiweddariadau ar ddeisebau eraill.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad iddo gwrdd fore Mawrth 6 Mai 2025.
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref 2025 a thoriad y Nadolig 2025, a chytunwyd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a’r Pasg yn 2026.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg, a newidiadau i derfynau amser o ganlyniad i wyliau banc mis Mai.
Unrhyw fater arall
Fformat cyfarfodydd yn y dyfodol
Trafododd Rheolwyr Busnes fformat cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol a chytunodd y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y cnawd o'r wythnos nesaf, gydag opsiwn hybrid ar gael.
Cyfeiriodd y Llywydd at y nifer uchel o faterion gweithdrefnol sydd i'w hystyried gan y Pwyllgor dros y 12 mis sy’n weddill o'r Senedd hon, a nododd y gallai fod angen i'r Pwyllgor Busnes ystyried defnyddio slot cyfarfod amgen yn rheolaidd ar gyfer gwaith gweithdrefnol.
Darllenfa Siambr Hywel
Trafododd y Pwyllgor Busnes y defnydd posibl ar gyfer ail ddarllenfa yn Siambr Hywel a nododd y byddai'r Llywydd yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen ar ôl ystyried yr opsiynau a'r gost o ddarparu un.